English Rhoddi

Trosolwg

Ein harwyddair yw "Plant y Cymoedd ydyn ni i gyd". Mae pobl yn adnabod ac yn defnyddio ein gwasanaethau eang am wahanol resymau, ond bydd un peth bob amser yn parhau i fod yn wir: rydym yn darparu amgylcheddau diogel, anfeirniadol a grymusol i bobl o bob oed wella eu hyder ac ansawdd eu bywyd.

Mae tlodi, amddifadedd a dirywiad trefol yn faterion gwirioneddol yn ein cornel ni o Gymru ond er gwaethaf yr heriau sy’n ymddangos yn anorchfygol, mae gennym obaith. Plant y cymoedd ydyn ni i gyd, felly p’un a ydych chi’n blentyn 7 oed yn ein clwb ar ôl ysgol, yn berson 17 oed yn ein rhaglen celfyddydau perfformio, yn rhiant 35 oed yn cael cymorth i gael mynediad at wasanaethau, neu’n ddyn 75 oed sy’n cwrdd â ffrindiau newydd yn ein dosbarth celf, rydyn ni yma i’ch cefnogi chi.

Yr hyn a wnawn
Ein gwaith

Effaith

Mae’r gwaith a wnawn yn cael effaith sylweddol ar ein cymunedau.

O ddarparu bwyd i sesiynau chwarae mynediad agored, clybiau ieuenctid, sesiynau i deuluoedd a chefnogaeth i rieni i gelf greadigol a gweithgareddau i oedolion hŷn, nod Plant y Cymoedd yw cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl.

Dysgu mwy

Archwiliwch

Dysgwch fwy am Blant y Cymoedd

Exit