English Rhoddi

Trosolwg

Rydym wedi gweithio'n galed i ennill ymddiriedaeth pobl ac i ddarparu cyfleoedd datblygu o fewn cymunedau. Gallwn helpu i roi rhwydweithiau cefnogaeth lleol ar waith, gan gydlynu ymdrechion a helpu pobl i ymateb pan fydd heriau fel y pandemig yn codi.

Mae datblygu cymunedol yn ffocws allweddol ar draws ein holl waith. Un o’n prif nodau fel sefydliad yw hyrwyddo ymagwedd datblygu cymunedol hyper-leol, sy’n ymgysylltu’n gymdeithasol ac wedi’i lywio gan drawma fel methodoleg er budd pobl. Rydym yn canolbwyntio a llywio ein gwaith o amgylch anghenion a chyfleoedd pobl leol, trwy gyfathrebu, ymgynghori a gwerthuso effeithiol.

Rydym yn gweithio’n galed i sicrhau bod gan ein cymunedau fynediad at wasanaethau angenrheidiol, gan weithio ochr yn ochr â sefydliadau a phartneriaid eraill. Fel endid sy’n cefnogi pob oed, rydym yn dod â phobl ynghyd i ddatrys heriau ar y cyd; gwneud y mwyaf o arbenigedd unigolion a datblygu strategaethau a datrysiadau gydag ymagwedd sy’n canolbwyntio ar y dinesydd.

Rydym yn ceisio:

Cydweithio; Ysgogi; Hwyluso; Galluogi; Grymuso; Addysgu; Eirioli; Dysgu. Gan wneud hynny drwy: Ymgysylltu; Cyfranogiad; Cyd-gynhyrchu; Cyd-greu; Datblygiad Parhaus.

Cysylltwch

Ydy hyn o ddiddordeb i chi?

Cysylltwch ag anneculverhousevans@valleyskids.biz i gael rhagor o wybodaeth am ein rhaglen celfyddydau gweledol.

Cysylltwch â ni
Datblygiad Cymunedol

Archwiliwch

Dysgwch fwy am blant y Cymoedd

Exit